1.
Cwestiwn
Pa dystiolaeth y mae arnaf angen ei darparu gyda’m cais? A oes angen i mi anfon dogfennau gwreiddiol?
Ateb
Mae’r dystiolaeth y mae angen i chi ei hanfon atom yn dibynnu ar rai pethau. I gael rhestrau llawn o’r hyn y mae angen i chi ei anfon atom, edrychwch
2.
Cwestiwn
A fyddaf yn cael fy nhaliadau yn ystod gwyliau’r ysgol?
Ateb
Na fyddwch, rhaid i chi fod yn mynychu’r ysgol neu’r coleg i gael eich taliadau LCA.
3.
Cwestiwn
Nid yw fy mhlentyn yn mynd i’r ysgol, a fydd yn parhau i gael LCA?
Ateb
Er mwyn cael taliadau LCA, rhaid i’ch ysgol neu goleg gadarnhau presenoldeb eich plentyn. Mae hyn yn berthnasol i ddisgyblion nad ydynt yn mynd i’r ysgol yn sgil diarddeliad, gwaharddiad dros dro, salwch neu resymau eraill. Yr ysgol neu’r coleg sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwn. Gallwch gysylltu â’r ysgol neu’r coleg gydag unrhyw gwestiynau am bresenoldeb
4.
Cwestiwn
Rwyf ar gwrs ‘Llwybrau i Brentisiaeth’ a allaf gael LCA?
Ateb
Gallwch, ond rhaid i chi fod ar gwrs Llwybrau at Brentisiaeth, gydag o leiaf 21 awr o astudiaeth dan arweiniad. Mae popeth arall fel LCA ar gyfer unrhyw gwrs arall.
5.
Cwestiwn
Pa mor hen y mae angen i mi fod i gael LCA?
Ateb
Ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau o fis Medi 2009 ymlaen, mae angen i chi fod rhwng 16 a 18 oed ar 31 Awst 2009. Os ydych chi’n hŷn na 18 oed ar y dyddiad hwn, gallech gael GDC (AB). Gallwch ddefnyddio’n cyfrifiannell i weld pa un ddylech chi wneud cais amdano.
6.
Cwestiwn
Mae incwm fy nghartref yn rhy uchel i mi gael LCA, ond a allaf gael taliadau bonws o hyd?
Ateb
Na allwch, mae taliadau bonws yn rhan o’r cynllun LCA. Rhaid bod gennych hawl i LCA er mwyn cael taliadau bonws.
7.
Cwestiwn
Pa fudd-daliadau a ystyrir wrth adio incwm fy nghartref?
Ateb
Dylid cynnwys y Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol Trethadwy hyn yn unig:
- Pensiwn Ymddeol
- Lwfans Rhiant Gweddw
- Lwfans Gofalwr
- Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
- Budd-dal Analluogrwydd (ar ôl 28 wythnos)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Gyfraniadau
- Budd-dal Profedigaeth
- Lwfans Ceiswyr Gwaith
8.
Cwestiwn
Sut ydw i’n cyfrifo incwm fy nghartref?
Ateb
Os ydych chi’n ,fyfyriwr dibynnol:
Gallwch gyfrifo incwm eich cartref trwy adio incwm eich rhiant/rhieni ac/neu eich gwarcheidwad/gwarcheidwaid o:
- Gyflogau
- Incwm hunangyflogaeth
- Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol Trethadwy
- Ffynonellau incwm eraill, fel incwm ymddiriedolaeth.
Wedyn rydych yn tynnu unrhyw ddidyniadau a ganiateir i ffwrdd Mwy am ddidyniadau a ganiateir
Peidiwch â chynnwys incwm i rieni neu lysrieni nad ydynt yn byw’n barhaol gyda chi.
Os ydych chi’n fyfyriwr annibynnol, byddwch yn gwneud yr un fath â’r uchod, ond bydd angen i chi ddefnyddio’ch incwm chi ac incwm eich partner, os oes gennych un.
| yw incwm eich mam: £8000 |
yw incwm eich tad: £12000 |
Incwm y cartref: £20000 |
| Nid oes gan eich mam unrhyw ddidyniadau a ganiateir. |
Mae gan eich tad £1000 o gyfraniadau pensiwn preifat. |
Didyniadau a ganiateir:: £1000 |
| Incwm y cartref: £20000 |
Tynnu didyniadau a ganiateir i ffwrdd : £1000 |
yw cyfanswm incwm eich cartref: £19000 |
9.
Cwestiwn
A ddylem gynnwys bonysau a goramser yn incwm fy nghartref?
Ateb
Dylech, mae bonysau a goramser yn cyfrif fel incwm a enillwyd
10.
Cwestiwn
Beth sy’n digwydd os bydd rhywun yn ymuno â’m cartref?
Ateb
Dylech gysylltu â Thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA a rhoi gwybod iddynt am y newid hwn. Petai’ch Mam neu’ch Tad yn ailbriodi er enghraifft, gallai incwm eu gŵr neu wraig newydd effeithio ar eich LCA.
11.
Cwestiwn
Cefais LCA y llynedd ac rwy’n gwneud cais eto – a oes angen i mi anfon tystiolaeth eto?
Ateb
Nid oes angen i chi anfon atom unrhyw dystiolaeth o’ch hunaniaeth, fel eich Tystysgrif Geni atom. Hwyrach y bydd angen tystiolaeth arnom o incwm eich cartref.
12.
Cwestiwn
A allwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Swyddfeydd Treth i gadarnhau fy incwm?
Ateb
Na allwn. Nid oes hawl ganddynt roi’r wybodaeth hon i ni yn sgil deddfau Diogelu Data. Bydd angen i chi gysylltu â nhw os oes angen unrhyw dystiolaeth ychwanegol o’ch incwm.
13.
Cwestiwn
A ddylem wneud cais i LCA Cymru neu EMA England?
Ateb
Mae hyn yn dibynnu ar ble rydych chi’n mynd i’r ysgol neu’r coleg. Os yw’ch ysgol neu goleg yng Nghymru, gallwch wneud cais i LCA Cymru, hyd yn oed os ydych chi’n byw yn Lloegr. Os yw’ch ysgol neu goleg yn Lloegr, gallwch wneud cais i EMA England www.direct.gov.uk/EMA.
Os ydych chi’n astudio yn yr Alban, dylech wneud cais am EMA Scotland - www.emascotland.com
Os ydych chi’n astudio yng Ngogledd Iwerddon, dylech wneud cais am EMA NI - www.delni.gov.uk
14.
Cwestiwn
I ble ddylem anfon fy ffurflen gais?
Ateb
Dylech anfon eich ffurflen at Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA. Eich cyfrifoldeb chi yw’r cais, felly rhaid i chi wneud yn siŵr y caiff ei anfon.
15.
Cwestiwn
Pryd ydw i'n dechrau cael taliadau?
Ateb
Gallwch ddechrau cael taliadau'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg cyn gynted ag y byddwch yn dechrau eich cwrs, cyhyd â'ch bod yn:
- ymgeisio ar amser;
- cytuno ac yn llofnodi Cytundeb Dysgu gyda’ch ysgol neu’ch coleg; a
- ac yn bodloni eich gofynion presenoldeb.
Ar ôl i ni gymeradwyo eich cais bydd angen i'ch ysgol neu’ch coleg gadarnhau eich bod wedi mynychu. Yna bydd taliadau yn cael eu gwneud i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu bob pythefnos.
16.
Cwestiwn
Beth ddylwn i ei wneud os bydd incwm fy nghartref yn newid yn ystod fy nghwrs?
Ateb
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am LCA a bod incwm eich cartref wedi disgyn, gallwch wneud cais am ailasesiad. Bydd angen i chi gysylltu â Thîm