Mae angen ichi gofrestru am gyfrif cyn y gallwch chi wneud cais am gyllid myfyrwyr.
Pwy ddylai gofrestru?
Dylech gofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru os ydych chi’n byw yng Nghymru ac os ydych chi:
- Yn fyfyriwr newydd sy’n bwriadu ymgeisio am gyllid myfyrwyr; neu
- Yn rhiant neu’n bartner myfyriwr a bod gofyn ichi ddarparu manylion eich incwm cartref i gefnogi cais myfyriwr am gyllid.
Pwy na ddylai gofrestru?
Myfyrwyr sy’n parhau
Os ydych chi’n mynd i mewn i’ch ail flwyddyn neu flwyddyn uwch yn y brifysgol neu’r coleg, bydd gennych gyfrif gyda ni eisoes, hyd yn oed os nad ydych wedi ymgeisio ar-lein o’r blaen. Nid oes angen ichi gofrestru.
Os nad ydych chi’n gwybod eich manylion mewngofnodi, gallwch eu cael ar-lein drwy glicio ar Canfod eich manylion mewngofnodi ar y dudalen Mewngofnodi.
Rhieni a phartneriaid sydd wedi darparu eu manylion o’r blaen
Os ydych wedi darparu manylion eich incwm cartref i ni erioed o’r blaen, hyd yn oed os oedd hynny i gefnogi gwahanol fyfyriwr, bydd gennych gyfrif gyda ni eisoes. Nid oes angen ichi gofrestru.
Os nad ydych chi’n gwybod eich manylion mewngofnodi, gallwch eu cael ar-lein drwy glicio ar Canfod eich manylion mewngofnodi ar y dudalen Mewngofnodi.
Yn mynychu coleg Addysg Bellach?
Os ydych chi’n mynychu cwrs mewn coleg Addysg Bellach (AB) ni ddylech gofrestru ar y wefan hon.
Efallai byddwch chi’n dymuno cael gwybod am LCA a GDC yn hytrach, sef grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr AB.
Yr unig eithriad i hyn yw os ydych chi’n mynychu cwrs sy’n arwain at gymhwyster lefel gradd. Bydd eich coleg yn gallu cadarnhau ai dyma yw’r achos.
Wedi cofrestru o’r blaen?
Os ydych wedi cofrestru o’r blaen, byddwch chi’n bodoli o hyd ar ein system ac nid oes angen ichi gofrestru eto.
Os nad ydych chi’n gwybod eich manylion mewngofnodi, gallwch eu cael ar-lein drwy glicio ar Canfod eich manylion mewngofnodi ar y dudalen Mewngofnodi.
Pam ddylech chi gofrestru?
Ni waeth ai myfyriwr ydych chi neu riant neu bartner myfyriwr, mae’n bwysig cofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru. Ar ôl ichi gofrestru, gallwch:
- Ymgeisio ar-lein am gyllid myfyrwyr
- Gweld beth yw statws cais i weld sut mae’n symud yn ei flaen
- Diweddaru eich manylion cyswllt a’ch manylion banc ar gyfer taliadau
- Darparu manylion eich incwm cartref yn ddiogel ar-lein, os chi yw rhiant neu bartner y myfyriwr
