Ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr

Dim ond ar ôl i chi orffen eich cwrs ac yn ennill dros swm penodol y mae angen i chi ddechrau ad-dalu eich benthyciad i fyfyrwyr.

Pa bryd y byddwch chi’n dechrau ad-dalu?

Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad i fyfyrwyr ym mis Ebrill ar ôl i chi raddio neu adael eich cwrs.

Ynghyd â hyn, mae’n rhaid eich bod yn ennill dros £1,316 y mis, £303 yr wythnos neu £15,795 y flwyddyn cyn y bydd yr ad-daliadau yn dechrau.

Faint y byddwch chi’n ei ad-dalu?

Byddwch yn talu 9% o unrhyw beth yr ydych chi’n ennill dros 1,316 y mis, £303 yr wythnos neu £15,795 y flwyddyn. Os ydych chi’n ennill llai na’r swm hwn ni fyddwch yn talu unrhyw beth.

Sut fyddwch chi’n ad-dalu?

Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn casglu ad-daliadau o’ch cyflog, ynghyd â threth incwm ac Yswiriant Gwladol, trwy gynllun Talu wrth Ennill (PAYE).

Os ydych chi’n hunangyflogedig, bydd HMRC yn casglu eich ad-daliadau trwy’r system hunanasesu treth.

Gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol unrhyw bryd.

Llog ar eich benthyciad

Fe godir llog arnoch chi ar eich benthyciad o pan fyddwch chi’n derbyn eich taliad cyntaf hyd oni fydd y benthyciad wedi’i ad-dalu’n llawn.

Mae’r gyfradd log gyfredol ar fenthyciadau i fyfyrwyr i’w gweld yma.

Eisiau rhagor o wybodaeth?

Ymwelwch â gwefan Ad-dalu Benthyciad i Fyfyrwyr am fanylion pellach am ad-dalu eich benthyciad i fyfyrwyr, gan gynnwys cyfraddau llog a gwybodaeth am wneud ad-daliadau gwirfoddol.

Rhannwch y dudalen hon
Rhannu

Ffurflenni a Chanllawiau

Ffurflenni a Chanllawiau

Ffurflenni a Chanllawiau

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin