Myfyrwyr newydd

Os ydych chi’n dechrau yn y Brifysgol nawr ac eisiau gwybod pa gymorth gallwch chi ei gael a sut i wneud cais amdano, ewch i’r rhan myfyrwyr newydd.

Myfyrwyr sy’n parhau

Os ydych chi’n mynd i’ch ail flwyddyn neu uwchlaw hynny yn y brifysgol, darganfyddwch beth sydd wedi newid ar gyfer y flwyddyn nesaf neu sut i ailwneud cais am gyllid yn y rhan myfyrwyr sy’n parhau.

Myfyrwyr rhanamser

Os ydych chi’n fyfyriwr rhan-amser newydd neu sy’n parhau, gallwch ddarganfod pa gymorth sydd ar gael a sut i wneud cais amdano yn y rhan myfyrwyr rhan-amser.

Rhieni a phartneriaid myfyrwyr

Os ydych chi’n rhiant neu’n bartner i fyfyriwr, gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gyllid i fyfyrwyr a’r rôl sydd gennych yn y rhan rhieni a phartneriaid.

Ad-dalu benthyciadau myfyrwyr

Gallwch gael trosolwg o’r broses ad-dalu ar gyfer benthyciadau myfyrwyr a dolenni cyswllt i wybodaeth fanylach yn y rhan ad-dalu benthyciadau myfyrwyr.

Yn yr Ysgol neu Goleg?

Os ydych chi’n dal i fod yn yr ysgol neu’r coleg ac yn chwilio am wybodaeth am LCA neu GDC (AB), mae angen ichi fynd i dudalen gartref LCA a GDC.

Ydychchi’nystyriedmyndi’rBrifysgolyn2012/13?

Rydymwedilluniocanllawcyflymihelpuiatebunrhywgwestiynausyddgennych. Gallwchgaelgwybodbethsy’nnewid a phagymorth y gallech chi fodyngymwysi’wgael.

Mae’rcanllaw’nberthnasolifyfyrwyramserllawn ac ifyfyrwyrrhan-amser.

Canslo rhan o ddyled benthyciad myfyrwyr

Bydd y myfyrwyr a gafodd Fenthyciad Cynhaliaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11 neu 2011/12 yn gymwys i ganslo rhan o’u benthyciad hyd at £1,500 pan fyddant yn dechrau gwneud eu had-daliadau. Darllenwch ragor

Gwyliwch rhag e-byst ffug

Rydym yn ymwybodol o nifer o ymgyrchoedd e-bost sy’n honni bod oddi wrth Gyllid Myfyrwyr Cymru. Efallai bod yr e-byst ffug hyn (gwe-rwydo) yn gofyn ichi roi eich manylion diogelwch. Os byddwch chi’n cael e-bost amheus, a wnewch chi ei anfon ymlaen yn syth i security@slc.co.uk.

Mae eich diogelu chi a’ch gwybodaeth yn holl bwysig i Gyllid Myfyrwyr Cymru. Cofiwch na fyddwn byth yn eich e-bostio chi yn gofyn am fanylion mewngofnodi na manylion defnyddiwr. Mae’n hawdd diogelu eich hunain ar-lein - i gael gwybod rhagor, trowch at ein tudalen gwybodaeth am ddiogelwch.

Mae eich Diogelwch yn Bwysig i ni

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cymryd eich diogelwch o ddifri calon ac mae wedi ymrwymo i’ch diogelu chi pryd bynnag y defnyddiwch ein gwasanaethau. I’n helpu i wneud hyn, dylech sicrhau bob amser fod eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a’ch Ateb Cyfrinachol gennych wrth law cyn siarad ag un o’n cynghorwyr. Os nad yw eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a’ch Ateb Cyfrinachol gyda chi, bydd gofyn ichi ateb rhai cwestiynau diogelwch ychwanegol cyn y gallwn ni fynd at eich cyfrif a helpu gyda’ch ymholiad.

Myfyrwyr sy’n mynychu cyrsiau yn yr Alban

O ran y newidiadau sy’n dod i rym ym Mlwyddyn Academaidd 2012/13 i’r ffioedd a godir ar fyfyrwyr o weddill y DU sy’n mynychu cwrs mewn sefydliad addysg uwch yn yr Alban, sylwch na fyddant yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi dechrau eu cwrs cyn 2012. Cewch wybod rhagor yma.

Rhagor o straeon newyddion...

Yn yr Ysgol neu Goleg?

Dysgwch am gymorth ariannol Addysg Bellach LCA neu GDC

Yn yr Ysgol neu Goleg?

Myfyrwyr Anabl

Mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael. Rhagor o wybodaeth

Myfyrwyr Anabl

Benthyciadau a Grantiau

Bydd ein Cyfrifiannell Cyllid Myfyrwyr yn dangos beth allech chi ei dderbyn

Benthyciadau a Grantiau

Ffurflenni a Chanllawiau

Dadlwytho: Ffurflenni cais a llyfrynnau canllaw

Ffurflenni a Chanllawiau

Gwefannau Defnyddiol Eraill

UCAS  Facebook  Twitter